Ehengodd fy nghalon, 'dwy'n deall pa fodd, 'Does dim ar y ddaear wna bellach fy modd, Fy ysbryd amcana ond hynny tr'wy byw, At bethau tragwyddol yn mynwes fy Nuw. Yr ardal mae'r dyrfa bwrcasodd y gwaed, Yn hyfryd yn edrych, yn wyneb fy Nhâd, Mil myrdd o delynau aur melyn eu gyd, Yn canu heb flino i Brynwr y byd. A heibio rai oriau, daw utgorn o'r ne', Caf alwad o'r daear i symud fy lle, Fe dorrir y carchar, a'm henaid yn rhydd, Fe'm dugir i'r ardal mae'n wastad yn ddydd. Ac yno caf aros heb archoll na chlwy, Mewn gwledydd heb 'storom na chymwl byth mwy; 'Ddaw ofn na gofid na phechod i blith, Trigolion fy ninas sancteiddiol i byth. Caf gyda'm Hanwylyd deyrnasu mewn hedd, Ymhell uwch cyrrhaeddiad holl ddychryn y bedd, Cawn wisgo coronau filiwnau ynghyd, A chanmawl fyth fythoedd Iachawdwr y byd.William Williams 1717-91 Tôn [11.11.11.11]: Geard (Thomas Walker) gwelir: Mae'n bryd i ni ganu ni gawsom y fraint |
My heart broadened, I do not understand how, There is nothing on the earth which does satisfy me henceforth, My spirit purposes But this while ever I live, For things eternal in the breast of my God. In a region where is the throng the blood purchased, Delightfully looking, in the face of my Father, A thousand myriad of harps of yellow gold altogether, Singing without wearying to the Redeemer of the world. Some hours go past, the trumpet comes from heaven, I get a call from the earth to move my place, The prison is to be broken, and my soul free, It is to be led to the region where it is constantly day. And there I will get to abide without wound or illness, In lands without a storm or cloud for evermore; No fear will come, nor grief, nor sin in the midst, Of the inhabitants of my sacred city for ever. I will get with my Beloved to reign in peace, Far above the reach of all the corruption of the grave, We will get to wear crowns millions together, And praise forever and ever the Saviour of the world.tr. 2016 Richard B Gillion |
|